Загрузка страницы

Morgan Elwy - Supersonic Llansannan

Mae Supersonic Llansannan yn disgrifio bywyd bob dydd trigolion llan sy'n cael llawenydd a chysur wrth dreulio amser yn y dafarn a chefnogi tîm pêl-droed y pentref ar ôl diwrnod caled hir yn gweithio ar y tir. Anthem hwylus i bobl pentref bach gwledig Llansannan. Fideo cerddoriaeth yn serenu yr actor Simon Holland Roberts.

Cyfarwyddwr - Hedydd Ioan
Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth - Rhys Grail
1st AD / Rhedwr - Ffion Mai
Actor - Simon Holland Roberts
Cynhyrchu – Ynyr Morgan Ifan & Owain Jones

Lyrics:
Oriau caled ar y tir
O pam fod y dydd mor hir
Dwi’n gweithio ers cyn y wawr
Heb baned i olchi’r mwg i lawr

A’r dydd sy’n dechrau troi yn graith
Dim clocio ffwrdd tan chwarter wedi saith
Mond un peth sy’n codi’n enaid gwan
Ar ol cau y siop gai fynd am beint i Llan

Where we come from, where we come from
Supersonic Llansannan, supersonic llansannan

Nos wener wallgo yn y red
Llond y tanc ond eto dal i yfed
Ond be di point bod adre home alone
A pawb yn canu please don’t take me home

Bore sadwrn dwi’n codi’n hwyr
O neithiwr oedd pawb di meddwi’n llwyr
Boots ymlaen mae’n amser cicio pêl
Mae Llan yn chware hogie Nantlle vale

Where we come from, where we come from
Supersonic Llansannan, supersonic llansannan

Gall bywyd fod mor rhwystredig
A weithie yn flinedig
Os w ti yn sychedig
Tyd i wrando ar y miwsig
Teimlo’n fendigedig
Yn y pentre bychain gwledig
Mae’r cwmni yma’n donig
Neud fi deimlo’n supersonic
Mae’n anysgrifynedig
Y cariad anweledig
Mae’r cwmni yma’n donig
Neud fi deimlo’n supersonic

Where we come from, where we come from
Supersonic Llansannan, supersonic llansanna

Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Gwasga'r botwm 'Subscribe'

TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c

Видео Morgan Elwy - Supersonic Llansannan канала Lwp
Показать
Комментарии отсутствуют
Введите заголовок:

Введите адрес ссылки:

Введите адрес видео с YouTube:

Зарегистрируйтесь или войдите с
Информация о видео
24 июня 2023 г. 14:00:43
00:03:11
Яндекс.Метрика