Загрузка страницы

Ffatri Jam - Geiriau Ffug

Fallai mai ‘ffilm fer’ yn hytrach ’na ‘fideo cerddoriaeth’ yw’r term priodol ar gyfer fideo cyntaf y band roc trwm gymharol newydd - ‘Ffatri Jam’, ar gyfer eu sengl ddiweddaraf. Rhyddhawyd y sengl ‘Geiriau Ffug’ yn wreiddiol ar Ddydd Miwsig Cymru yn ôl ym mis Chwefror ac fe’i darlledwyd ar BBC Radio 1 ble cafodd ei chydnabod ymhlith Seiniau Gorau 2022 BBC Introducing.

Yn ogystal â chyflwyno synnau newydd i’r gynulleidfa Gymraeg felly, mae gweledigaeth greadigol y band yn amlwg yn ymestyn i rywbeth gweledol hefyd. Ffilm cyfnod sydd yma - a hwnnw’n perthyn i fyd trahaus y Rhyfel Byd Cyntaf - testun annisgwyl ar gyfer fideo cerddorol, ac yn enwedig hwyrach cael merch fel prif gymeriad canolog i’r cyfan. Diddorol hefyd yw’r dewis o leoliad - ffos wedi’i hadeiladu 10 mlynedd yn ôl yn seiliedig ar un gwreiddiol ble byddai cymaint o Gymry Cymraeg wedi colli eu bywydau. A chyda’r fideo wedi’i selio ar frwydr mewnol yr unigolyn a gaiff eu hamlygu drwy gyfres o ôl-fflachiadau,

Ceid portread teimladwy o stori sy’n bwydo ar themâu gwreiddiau, euogrwydd, perthynas ag amser, iechyd meddwl, pryder a pŵer y meddwl. Gwelwn ferch yn dychwelyd adref yn sgîl marwolaeth ei nain gyda’r euogrwydd hwnnw’n treiddio’n amlwg wrth iddi gasglu bocsys. Mae hyn yn ei dro yn troi’n obsesiwn ynghylch hanes ei theulu – a’r awch i wybod mwy. Yna, mae’r prif gymeriad yn sefyll ynghanol maes y gad sydd bellach yn wag, sy’n gweithio’n gelfydd fel portread o ddoe a heddiw, a’r berthynas rhwng y naill a’r llall, yn ogystal â gweithio fel trosiad celfydd o frwydr fewnol y prif gymeriad yn deillio o’r euogrwydd cychwynnol.

Mae fideo cerddoriaeth yn ei hanfod yn gorfod torri llawer o ‘stori’ ffilm, ond trwy wneud hynny, rhydd ryddid i’r gynulleidfa benderfynu drostyn nhw’u hunain beth yn union sy’n digwydd yn y gwagleoedd. Dyma arbrawf llwyddiannus, dewr felly fel cyfuniad creadigol i gyfeiliant sŵn trawiadol Ffatri Jam. Gwrandewch – a gwyliwch.

Band:
Bryn Williams
Sion Emlyn
Aled Jones
Huw Owen
Will Coles

Actor:
Lois Elenid

Cynhyrchu a Chyfarwyddo:
Andy Pritchard a Aled Wyn Jones

DOP:
Andy Pritchard

Camera Cynorthwyol:
Jamie Walker a Sîon Gwyn

Gwisgoedd a Cynghorwr Rhyfel Byd 1af:
Jed Bone

Gwisgoedd:
Lorraine Lister

Rheolwr Cynhyrchu:
Iona Rhys

Ymchwilydd:
Buddug Roberts

Diolchiadau:
Cyngor Sir Ddinbych
The History Bunker
Andrew Cowie
Sioned Wyn Jones
Elizabeth Jones

Geiriau/Lyrics:

Ti'n meddwl dy fod di gam ymlaen,
Ac yn saff yn dy gastell, gorchmynion gan frenhines.
Carlamu mae dy geffylau di
Paid a symyd heb gysidro, ti'n croesawu y diafol.
Ti ddim yn siarad y gwir,
Cladda dy eiriau ffug, ti'm yn gweld yn glir.
COFIA
Pam ti'm yn siarad y gwir,
Daw y blaidd o'r du a dy frathu di,
Ti'n ymddwyn fel ti'n frennin ar bawb,
Ond mae'r saethau'n troi yn gwmwl, fel taran yn dy feddwl.
Ti'n lladd y gwystl i gyd rhy hawdd,
Yr esgobion sydd yn atgof a dy ffrindiau'n troi anghof.
Ti ddim yn siarad y gwir,
Cladda dy eiriau ffug, ti'm yn gweld yn glir.
COFIA
Pam ti'm yn siarad y gwir,
Daw y blaidd o'r du a dy frathu di,
Paid a troi dy gefn
Paid a troi dy gefn
Paid a troi dy gefn
Paid a troi dy gefn
Paid a troi dy gefn
Paid a troi dy gefn
Paid a troi dy gefn
Paid a troi dy gefn
Paid a troi dy ben a sbio nol,

Ti ddim yn siarad y gwir,
Cladda dy eiriau ffug, ti'm yn gweld yn glir.
COFIA
Pam ti'm yn siarad y gwir,
Daw y blaidd o'r du a dy frathu di.

Cyhoeddi - AWAL

Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Gwasga'r botwm 'Subscribe'

TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c

Видео Ffatri Jam - Geiriau Ffug канала Lwp
Показать
Комментарии отсутствуют
Введите заголовок:

Введите адрес ссылки:

Введите адрес видео с YouTube:

Зарегистрируйтесь или войдите с
Информация о видео
2 мая 2023 г. 23:01:07
00:06:47
Яндекс.Метрика